Dyfarniad Lefel 1 mewn Paratoi ar gyfer Gwaith ym maes Trin Cŵn

Dyfarniad Lefel 1 mewn Paratoi ar gyfer Gwaith ym maes Trin Cŵn

19th, Mar 2024 General News

Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae saith ym mhob deg o gŵn mwyaf poblogaidd y DU angen triniaethau i’w côt. Yn dilyn poblogrwydd cŵn bach yn ystod y pandemig, a mwy o bobl yn berchen ar gŵn yn sgil hynny, nid yw’r galw am wasanaethau prydferthu cŵn erioed wedi bod cyn drymed.

Ond mae rhieni cŵn yn gwsmeriaid sy’n deall cryn dipyn, ac yn mynnu bod arbenigwyr eu hanifeiliaid anwes yn meddu ar gymwysterau o'r radd flaenaf i gefnogi eu sgiliau. Mae hyn wedi digalonni nifer o siaradwyr Cymraeg yn y gorffennol, gan nad yw'r cyrsiau wedi bod ar gael yn eu dewis iaith.

Ond mae hynny ar fin newid. Ar ôl llwyddo i ennill Grant Cymorth Iaith Gymraeg gan Cymwysterau Cymru, mae iPET Network wedi creu Dyfarniad Lefel 1 newydd sbon mewn Paratoi ar gyfer Gwaith Prydferthu Cŵn sy’n berffaith ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd am gamu i'r proffesiwn.

Dywedodd Sarah Mackay a Fern Gresty o iPET Network, sy’n creu cymwysterau wedi’u rheoleiddio gan Ofqual ar gyfer diwydiannau anifeiliaid y DU: “Mae hwn yn brosiect pwysig i ni, gan fod hygyrchedd a chynhwysiant wrth galon yr hyn a wnawn.

“Drwy gynnig y cymwysterau hyn yn ddwyieithog, bydd mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn gallu camu i'r diwydiannau sydd mor agos at ein calonnau ni, gyda lefel sgiliau uchel, y mae gwir ei hangen wrth i’r diwydiannau hyn ehangu.

“Yn ogystal â bod yn fwy hygyrch i'r rheini eu hiaith ddewisol yw’r Gymraeg, mewn cymhariaeth â phopeth arall sydd ar gynnig, mae’r cymwysterau yn canolbwyntio llawer mwy ar ddod yn barod ar gyfer gwaith a chymwysterau llai i gefnogi dysg ychwanegol.

“Mae prydferthu cŵn yn ddiwydiant sy’n ehangu ac mae’r galw am brydferthwyr cŵn cymwys yn cynyddu, does dim amheuaeth am hynny. Ar gyfer unrhyw un a hoffai weithio gydag anifeiliaid, mae camu i’r byd prydferthu cŵn yn rhywbeth a all roi gyrfa ryfeddol a gwerth chweil i chi.”

Mewn ymgais i gynnig cymwysterau hygyrch mewn diwydiannau sy’n ehangu, yn cynnwys Prydferthu Cŵn a Gofal Anifeiliaid, mae iPET Network wedi cael cyllid gan Grant Cymorth Iaith Gymraeg Cymwysterau Cymru i greu pum cymhwyster newydd.

Dyma restr lawn o'r cymwysterau a fydd ar gael yn ddwyieithog:

Dyfarniad Lefel 1 iPET Network mewn Paratoi ar gyfer Gwaith Prydferthu Cŵn

Diploma Lefel 2 iPET Network mewn Gofal Anifeiliaid a'u Rheoli

Dyfarniad Lefel 3 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf i Gŵn

Dyfarniad Lefel 3 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf Brys i Geffylau

Dyfarniad Lefel 2 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf i Gŵn

Bydd y cymwysterau, a fydd ar gael i'w cyflwyno fis Ebrill 2024, yn galluogi dysgwyr, eu dewis iaith yw’r Gymraeg, i gael y cyfle i ddysgu a chwblhau’r cymwysterau yn Gymraeg. Gyda chymorth Darparwyr Hyfforddiant cymeradwy iPET Network, bydd y cymwysterau wedi’u neilltuo ar gyfer cyllid, gan ganiatáu’r rheini sy’n gallu addysgu a rhoi hyfforddiant yn Gymraeg i gofrestru dysgwyr.

Yn ogystal â bod ar gael yn llwyr yn Gymraeg, mae'r cymwysterau hyn wedi’u dylunio i fodloni anghenion y farchnad Gymraeg a pharatoi dysgwyr ar gyfer gwaith yn y Sector Gofal Anifeiliaid. Gofynnir i golegau a darparwyr hyfforddiant preifat sydd awydd gwybod mwy am gynnig y cymwysterau i ddod ymlaen i helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno a dyrannu'r cymwysterau.

Diben Grant Cymorth Iaith Gymraeg Cymwysterau Cymru yw cefnogi cyrff dyfarnu i gynnig cymwysterau ac asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14-19 oed sy’n astudio rhaglenni dysgu llawn amser wedi’u hariannu neu brentisiaethau wedi’u hariannu o gronfa gyhoeddus.

Meddai Dr. Alex Lovell, Rheolwr Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru: “Pleser gennym yw ein bod wedi dyfarnu cyllid grant i iPET Network i sicrhau y bydd y cymwysterau newydd sbon hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg pan fyddant yn cael eu cyflwyno gyntaf.

 “Mae darparu cynnig gweithredol a chyfartal i ddysgwyr yng Nghymru o’r cychwyn cyntaf yn adlewyrchu arfer dda ac yn gwella'r tebygolrwydd y bydd dysgwyr yn ymgymryd â chymwysterau newydd yn Gymraeg.

 “Rydym yn ddiolchgar i iPET Network am weithio ar y cyd â ni yn ein gwaith i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.”

 I ddysgu mwy am yr iPET Network, ewch i www.ipetnetwork.co.uk

 

iPET Network Level 1 Award in Preparing for Work in Dog Grooming

With more dogs living in Wales than ever before, a brand new course has been introduced for Welsh speakers who would like to become a dog groomer.

Currently seven out of ten of the UK's most popular dog breeds require a groom, and following the pandemic puppy boom, and a subsequent rise in dog ownership, demand for dog grooming services are at an all time high.

But dog parents are savvy customers, and are demanding that their pet professionals have top quality qualifications to back up their skills. This has previously put many Welsh speakers off, as the courses have not been available in their preferred language.

But all that is set to change, as after being award a grant from Qualifications Wales’ Welsh Language Support Grant, iPET Network has created a brand new Level 1 Award in Preparing for Work in Dog Grooming which is perfect for Welsh speakers who want to get into the profession.

Sarah Mackay and Fern Gresty of the iPET Network, which creates Ofqual regulated qualifications for UK animal industries, said: "This is an important project to us, as accessibility and inclusiveness is at the heart of all we do.

"By providing these qualifications bilingually, more people than ever will be able to enter the industries we love, with a high skill level which is so needed as these industries grow.

"As well as being more accessible for those whose preferred language is Welsh, the qualifications are far more based on becoming ready for work than anything else out there and smaller qualifications to support additional learning.

"Dog grooming is a growth industry and the demand for qualified dog groomers is only going to rise. For anyone who would love to work with animals, getting into dog grooming is something that can give you an amazing and rewarding dream career."

In an effort to offer accessible qualifications in growth industries, including Dog Grooming and Animal Care, iPET Network has received funding from Qualifications Wales’ Welsh Language Support Grant to create five new qualifications.

The full list of qualifications that will be available bilingually are:

iPET Network Level 1 Award in Preparing for Work in Dog Grooming

iPET Network Level 2 Diploma Animal Care

iPET Network Level 3 Award in Canine First Aid

iPET Network Level 3 Award in Equine Emergency First Aid

iPET Network Level 2 Award in First Aid for Dogs

The qualifications, which will be available for delivery from April 2024, will enable learners for whom Welsh is their preferred language to have the opportunity to learn and complete the qualifications in Welsh. With the support of iPET Networks approved Training Providers, the qualifications will be designated for funding allowing those who can teach and train in Welsh the option to register learners.

As well as being fully available in Welsh, these qualifications have been designed to meet the needs of the Welsh market and preparing leaners for work in the Animal Care Sector. Colleges and private training providers who would like to know more about offering the qualifications are being asked to come forward to help support the roll out and designation of the qualifications.

The purpose of Qualifications Wales’ Welsh Language Support Grant is to support awarding bodies in offering qualifications and assessment through the medium of Welsh, with priority given to qualifications for use by learners aged 14-19 on full-time funded programmes of learning or publicly funded apprenticeships.

Dr. Alex Lovell, Qualifications Manager at Qualifications Wales, said: "We are pleased to have awarded grant funding to iPET Network to ensure that these brand-new qualifications will be available in both Welsh and English from the point of first delivery.

 "Providing an active and equal offer to learners in Wales from the outset reflects best practice and increases the likelihood that learners will take up new qualifications in Welsh.

 "We are grateful to iPET Network for working collaboratively with us in our work to increase the availability of Welsh-medium qualifications.”

 To find out more about the iPET Network go to www.ipetnetwork.co.uk