iPET Network has been awarded grant funding

iPET Network has been awarded grant funding

29th, Feb 2024 General News

In an effort to offer accessible qualifications in growth industries, including Dog Grooming and Animal Care, iPET Network has received funding from Qualifications Wales’ Welsh Language Support Grant to create five new qualifications.

The qualifications that will be available bilingually are:

1) iPET Network Level 1 Award in Preparing for Work in Dog Grooming

2) iPET Network Level 2 Diploma in Animal Care 

3) iPET Network Level 3 Award in Canine First Aid

4) iPET Network Level 3 Award in Equine Emergency First Aid

5) iPET Network Level 2 Award in First Aid for Dogs

The qualifications, which will be available for delivery from April 2024, will enable learners for whom Welsh is their preferred language to have the opportunity to learn and complete the qualifications in Welsh. With the support of iPET Networks approved Training Providers, the qualifications will be designated for funding allowing those who can teach and train in Welsh the option to register learners.

As well as being fully available in Welsh, these qualifications have been designed to meet the needs of the Welsh market and preparing leaners for work in the Animal Care Sector. Colleges and private training providers who would like to know more about offering the qualifications are being asked to come forward to help support the roll out and designation of the qualifications.

Sarah Mackay and Fern Gresty, founders of iPET Network, said: "We are so thrilled to be offering these new qualifications in Wales, and hope that more colleges sign up to deliver them.

The largest development in education offering for the sector will be the roll out of the iPET Network Level 2 Diploma in Animal Care. Development of this qualification started over two years ago taking feedback from colleges on how the current qualifications being delivered could be improved. We always like to be different, so we have created all the workbooks, assessment documentation and resources to support effective delivery of this new qualification.”

"As well as being more accessible for those whose preferred language is Welsh, the qualifications are far more based on becoming ready for work than anything else out there and smaller qualifications to support additional learning.

"In the Animal Care qualification there are practical mandatory subjects such as Animal Health and Diseases and Health Safety and Hygiene, and optional units including Animal Nursing Skills and Customer Care, the focus is on getting learners ready to start work as soon as they qualify or progress on to a higher qualification, in sectors which have been identified as 'in need' by Welsh Government."

The purpose of Qualifications Wales’ Welsh Language Support Grant is to support awarding bodies in offering qualifications and assessment through the medium of Welsh, with priority given to qualifications for use by learners aged 14-19 on full-time funded programmes of learning or publicly funded apprenticeships.

Dr. Alex Lovell, Qualifications Manager at Qualifications Wales, said: "We are pleased to have awarded grant funding to iPET Network to ensure that these brand-new qualifications will be available in both Welsh and English from the point of first delivery.

Providing an active and equal offer to learners in Wales from the outset reflects best practice and increases the likelihood that learners will take up new qualifications in Welsh.

We are grateful to iPET Network for working collaboratively with us in our work to increase the availability of Welsh-medium qualifications.” 

To find out more about the iPET Network go to www.ipetnetwork.co.uk

 

Mewn ymdrech i gynnig cymwysterau hygyrch mewn diwydiannau twf, gan gynnwys Trin Cŵn a Gofalu am Anifeiliaid, mae’r Rhwydwaith iPET wedi cael cyllid gan Grant Cymorth Iaith Gymraeg Cymwysterau Cymru i greu pum cymhwyster newydd.

Y cymwysterau a fydd ar gael yn ddwyieithog yw :

1) Dyfarniad Lefel 1 iPET Network mewn Paratoi ar gyfer Gwaith ym maes Trin Cŵn

2) Diploma Lefel 2 iPET Network mewn Gofal Anifeiliaid

3) Dyfarniad Lefel 3 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf i Gŵn:

4) Dyfarniad Lefel 3 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf Brys i Geffylau

5) Dyfarniad Lefel 2 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf i Gŵn

Bydd y cymwysterau, fydd ar gael i’w darparu o fis Ebrill 2024 ymlaen, yn galluogi dysgwyr y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt i gael y cyfle i ddysgu a chwblhau’r cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda chefnogaeth Darparwyr Hyfforddiant cymeradwy iPET Network, bydd y cymwysterau’n cael eu dynodi ar gyfer cyllid sy’n rhoi’r opsiwn i’r rheini sy’n gallu addysgu a hyfforddi yn Gymraeg gofrestru dysgwyr.

Yn ogystal â bod ar gael yn llawn yn y Gymraeg, mae’r cymwysterau hyn wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y farchnad yng Nghymru a pharatoi dysgwyr ar gyfer gwaith yn y Sector Gofal Anifeiliaid. Gofynnir i golegau a darparwyr hyfforddiant preifat a fyddai’n hoffi gwybod mwy am gynnig y cymwysterau ddod ymlaen i helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno a dynodi’r cymwysterau.

Dywedodd Sarah Mackay a Fern Gresty, a sefydlodd iPET Network: “Rydyn ni mor falch o gael cynnig y cymwysterau newydd hyn yng Nghymru, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o golegau’n cofrestru i’w darparu.

Y datblygiad mwyaf ym maes addysg ar gyfer y sector fydd cyflwyno Diploma Lefel 2 y iPET Network mewn Gofalu am Anifeiliaid. Dechreuodd y gwaith o ddatblygu’r cymhwyster hwn dros ddwy flynedd yn ôl, gan dderbyn adborth gan golegau ynghylch sut y gellid gwella’r cymwysterau presennol sy’n cael eu darparu. Rydyn ni bob amser yn hoffi bod yn wahanol, felly rydyn ni wedi creu’r holl lyfrau gwaith, dogfennau asesu ac adnoddau i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cymhwyster newydd hwn yn effeithiol.”

“Yn ogystal â bod yn fwy hygyrch i’r rheini sy’n dewis Cymraeg, mae’r cymwysterau’n llawer mwy seiliedig ar fod yn barod ar gyfer gwaith nag unrhyw beth arall sydd ar gael, a chymwysterau llai i gefnogi dysgu ychwanegol.

“Yn y cymhwyster Gofalu am Anifeiliaid mae pynciau gorfodol ymarferol fel Iechyd a Chlefydau Anifeiliaid a Diogelwch Iechyd a Hylendid, ac unedau dewisol gan gynnwys Sgiliau Nyrsio Anifeiliaid a Gofal Cwsmer. Mae’r ffocws ar sicrhau bod dysgwyr yn barod i ddechrau gweithio cyn gynted ag y byddant yn gymwys neu’n symud ymlaen i gymhwyster uwch, mewn sectorau sydd wedi’u nodi fel rhai ‘mewn angen’ gan Lywodraeth Cymru.”

Pwrpas Grant Cymorth Iaith Gymraeg Cymwysterau Cymru yw cefnogi cyrff dyfarnu i gynnig cymwysterau ac asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gymwysterau i’w defnyddio gan ddysgwyr 14-19 oed ar raglenni dysgu amser llawn a ariennir neu brentisiaethau a ariennir yn gyhoeddus.

Dywedodd Dr. Alex Lovell, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru: “Rydym yn falch o fod wedi dyfarnu cyllid grant i’r iPET Network i sicrhau y bydd y cymwysterau newydd sbon hyn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg o’r adeg y’u cyflwynir gyntaf.

Mae darparu cynnig gweithredol a chyfartal i ddysgwyr yng Nghymru o’r cychwyn cyntaf yn adlewyrchu arferion gorau ac yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd dysgwyr yn ymgymryd â chymwysterau newydd yn Gymraeg.

Rydym yn ddiolchgar i iPET Network am gydweithio â ni yn ein gwaith i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.” 

I gael rhagor o wybodaeth am y iPET Net ewch i www.ipetnetwork.co.uk