iPET Network Lefel 2 Diploma mewn Gofal Anifeiliaid

iPET Network Lefel 2 Diploma mewn Gofal Anifeiliaid

22nd, Mar 2024 General News

iPET Network Lefel 2 Diploma mewn Gofal Anifeiliaid

Gall siaradwyr Cymraeg sydd â’u bryd ar sicrhau swydd mawr ei galw yn gofalu am anifeiliaid bellach wneud cais am gwrs newydd sbon yn eu dewis iaith.

Mae’r Diploma Lefel 2 hwn mewn Gofal Anifeiliaid sy’n torri tir newydd ar gael yn arbennig i siaradwyr Cymraeg o ganlyniad i’r sefydliad iPET Network yn ennill cyllid grant gan y llywodraeth i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cymwysterau cwbl ddwyieithog yn ymwneud ag anifeiliaid.

Y diploma unigryw gan iPET Network yw’r trysor yn y portffolio newydd o gymwysterau dwyieithog, a’r gobaith yw y bydd y cymhwyster yn annog mwy o ddysgwyr i ddod ymlaen, a sicrhau swyddi yn y sector hwn sy’n ehangu.

Dechreuwyd datblygu'r cymhwyster hwn dros ddwy flynedd yn ôl drwy gasglu adborth gan golegau ynghylch sut ellid gwella’r cymwysterau presennol sy’n cael eu cyflwyno, ac aeth iPET Network ati i greu’r holl lawlyfrau, dogfennaeth asesu ac adnoddau i gefnogi i ddarparu’r cymhwyster hwn yn effeithiol.

Dywedodd Sarah Mackay a Fern Gresty o iPET Network, sy’n creu cymwysterau wedi’u rheoleiddio gan Ofqual ar gyfer diwydiannau anifeiliaid y DU: “Mae hwn yn brosiect pwysig i ni, gan fod hygyrchedd a chynhwysiant wrth galon yr hyn a wnawn.

“Drwy gynnig y cymwysterau hyn yn ddwyieithog, bydd mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn gallu camu i'r diwydiannau sydd mor agos at ein calonnau ni, gyda lefel sgiliau uchel, y mae gwir ei hangen wrth i’r diwydiannau hyn ehangu.

“Yn ogystal â bod yn fwy hygyrch i'r rheini eu hiaith ddewisol yw’r Gymraeg, mewn cymhariaeth â phopeth arall sydd ar gynnig, mae’r cymwysterau yn canolbwyntio llawer mwy ar ddod yn barod ar gyfer gwaith a chymwysterau llai i gefnogi dysg ychwanegol.

“Yn y cymhwyster Gofal Anifeiliaid a’u Rheoli, mae yna bynciau hanfodol ymarferol fel Iechyd ac Afiechydon Anifeiliaid ac Iechyd, Diogelwch a Hylendid, ac unedau dewisol fel Sgiliau Nyrsio Anifeiliaid a Gofal Cwsmeriaid. Y prif ffocws yw paratoi dysgwyr i ddechrau gweithio cyn gynted ag y cymhwysant neu fynd ymlaen i gymhwyster uwch, mewn sectorau sydd wedi’u hadnabod fel sectorau ‘mewn angen’ gan Lywodraeth Cymru.”

Mewn ymgais i gynnig cymwysterau hygyrch mewn diwydiannau sy’n ehangu, yn cynnwys Prydferthu Cŵn a Gofal Anifeiliaid, mae iPET Network wedi cael cyllid gan Grant Cymorth Iaith Gymraeg Cymwysterau Cymru i greu pum cymhwyster newydd.

 Dyma restr lawn o'r cymwysterau a fydd ar gael yn ddwyieithog:

Dyfarniad Lefel 1 iPET Network mewn Paratoi ar gyfer Gwaith Prydferthu Cŵn
Diploma Lefel 2 iPET Network mewn Gofal Anifeiliaid a'u Rheoli
Dyfarniad Lefel 3 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf i Gŵn
Dyfarniad Lefel 3 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf Brys i Geffylau
Dyfarniad Lefel 2 iPET Network mewn Cymorth Cyntaf i Gŵn
 
Bydd y cymwysterau, a fydd ar gael i'w cyflwyno fis Ebrill 2024, yn galluogi dysgwyr, eu dewis iaith yw’r Gymraeg, i gael y cyfle i ddysgu a chwblhau’r cymwysterau yn Gymraeg. Gyda chymorth Darparwyr Hyfforddiant cymeradwy iPET Network, bydd y cymwysterau wedi’u neilltuo ar gyfer cyllid, gan ganiatáu’r rheini sy’n gallu addysgu a rhoi hyfforddiant yn Gymraeg i gofrestru dysgwyr.

Yn ogystal â bod ar gael yn llwyr yn Gymraeg, mae'r cymwysterau hyn wedi’u dylunio i fodloni anghenion y farchnad Gymraeg a pharatoi dysgwyr ar gyfer gwaith yn y Sector Gofal Anifeiliaid. Gofynnir i golegau a darparwyr hyfforddiant preifat sydd awydd gwybod mwy am gynnig y cymwysterau i ddod ymlaen i helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno a dyrannu'r cymwysterau.

Diben Grant Cymorth Iaith Gymraeg Cymwysterau Cymru yw cefnogi cyrff dyfarnu i gynnig cymwysterau ac asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14-19 oed sy’n astudio rhaglenni dysgu llawn amser wedi’u hariannu neu brentisiaethau wedi’u hariannu o gronfa gyhoeddus.

 Meddai Dr. Alex Lovell, Rheolwr Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru: “Pleser gennym yw ein bod wedi dyfarnu cyllid grant i iPET Network i sicrhau y bydd y cymwysterau newydd sbon hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg pan fyddant yn cael eu cyflwyno gyntaf.

 “Mae darparu cynnig gweithredol a chyfartal i ddysgwyr yng Nghymru o’r cychwyn cyntaf yn adlewyrchu arfer dda ac yn gwella'r tebygolrwydd y bydd dysgwyr yn ymgymryd â chymwysterau newydd yn Gymraeg.

 “Rydym yn ddiolchgar i iPET Network am weithio ar y cyd â ni yn ein gwaith i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.”

 Am ragor o wybodaeth ynghylch yr iPET Network, ewch i
www.ipetnetwork.co.uk

 

iPET Network Level 2 Diploma in Animal Care.

Welsh speakers who want to fill much-needed roles in animal care can now access a brand new course in their preferred language.

The ground-breaking new Level 2 Diploma in Animal Care available exclusively to Welsh speakers is the result of awarding organisation iPET Network winning government grant funding to help support the development of fully bilingual animal related qualifications.

The bespoke iPET Network diploma is the jewel in the crown of the new bi-lingual portfolio of qualifications, and it is hoped that the qualification will encourage more learners to come forward, and take jobs in this growth sector.

Development of this qualification started over two years ago taking feedback from colleges of how the current qualifications being delivered could be improved, iPET Network created all the workbooks, assessment documentation and resources to support effective delivery of this new qualification.

Sarah Mackay and Fern Gresty of the iPET Network, which creates Ofqual regulated qualifications for UK animal industries, said: "This is an important project to us, as accessibility and inclusiveness is at the heart of all we do.

"By providing these qualifications bilingually, more people than ever will be able to enter the industries we love, with a high skill level which is so needed as these industries grow.

"As well as being more accessible for those whose preferred language is Welsh, the qualifications are far more based on becoming ready for work than anything else out there and smaller qualifications to support additional learning.

"In the Animal Care and Management qualification there are practical mandatory subjects such as Animal Health and Diseases and Health Safety and Hygiene, and optional units including Animal Nursing Skills and Customer Care, the focus is on getting learners ready to start work as soon as they qualify or progress on to a higher qualification, in sectors which have been identified as 'in need' by Welsh Government."

In an effort to offer accessible qualifications in growth industries, including Dog Grooming and Animal Care, iPET Network has received funding from Qualifications Wales’ Welsh Language Support Grant to create five new qualifications.

The full list of qualifications that will be available bilingually are:

iPET Network Level 1 Award in Preparing for Work in Dog Grooming

iPET Network Level 2 Diploma Animal Care

iPET Network Level 3 Award in Canine First Aid

iPET Network Level 3 Award in Equine Emergency First Aid

iPET Network Level 2 Award in First Aid for Dogs

The qualifications, which will be available for delivery from April 2024, will enable learners for whom Welsh is their preferred language to have the opportunity to learn and complete the qualifications in Welsh. With the support of iPET Networks approved Training Providers, the qualifications will be designated for funding allowing those who can teach and train in Welsh the option to register learners.

As well as being fully available in Welsh, these qualifications have been designed to meet the needs of the Welsh market and prepare learners for work in the Animal Care Sector. Colleges and private training providers who would like to know more about offering the qualifications are being asked to come forward to help support the roll out and designation of the qualifications.

The purpose of Qualifications Wales’ Welsh Language Support Grant is to support awarding bodies in offering qualifications and assessment through the medium of Welsh, with priority given to qualifications for use by learners aged 14-19 on full-time funded programmes of learning or publicly funded apprenticeships.

 Dr. Alex Lovell, Qualifications Manager at Qualifications Wales, said: "We are pleased to have awarded grant funding to iPET Network to ensure that these brand-new qualifications will be available in both Welsh and English from the point of first delivery.

 "Providing an active and equal offer to learners in Wales from the outset reflects best practice and increases the likelihood that learners will take up new qualifications in Welsh.

 "We are grateful to iPET Network for working collaboratively with us in our work to increase the availability of Welsh-medium qualifications.”

 To find out more about the iPET Network go to www.ipetnetwork.co.uk